Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnig llety gyda theulu i bobl ifanc digartref ac mae ar gael mewn 7 bwrdeistref ar draws Glannau Merswy a Gogledd Cymru. Caiff bobl ifanc lety gyda ‘Pherchnogion Tai’ cofrestredig yn eu cartrefi. Bydd ganddyn nhw eu hystafelloedd gwely eu hunain ac yn rhannu’r gegin a’r ystafell ymolchi. Mae hwn yn ddewis arall dros aros mewn hostel. Bydd pob person ifanc yn derbyn cefnogaeth gan eu Perchennog Tŷ a’u swyddog cefnogi.
Mae’r gefnogaeth ymarferol ac emosiynol sydd ar gael yn cynnwys:
- Ystafell wely gyda dodrefn mewn cartref
- Cymorth i ddod o hyd i addysg a gwaith
- Cymorth i dderbyn budd-daliadau y mae gan y person ifanc hawl i’w derbyn
- Cefnogaeth i ddatblygu sgiliau byw yn annibynnol, er enghraifft, cyllidebu, coginio ayb.
- Cymorth i dderbyn cefnogaeth arbenigol
- Cefnogaeth i ennill sgiliau a magu hyder er mwyn cynnal tenantiaeth trwy’r rhaglen Pasport Ailgartrefu a dod o hyd i lety sefydlog er mwyn symud ymlaen
Pwy ydy Perchnogion Tai y cynllun Llety gyda Chefnogaeth?
Mae Perchnogion Tai yn aelodau o’r gymuned sydd ag ystafell wely sbâr ac eisiau cefnogi person ifanc. Caiff pob Perchennog Tŷ ei asesu i weld ydyn nhw’n addas, byddan nhw’n ymgymryd â phrofion y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac yn derbyn hyfforddiant a goruchwyliaeth rheolaidd yn ogystal â chefnogaeth gan staff yr ardal. Mwy o wybodaeth yma.
Digartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref?
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei wybod yn ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, mae cefnogaeth ar gael. Cliciwch yma i weld y camau nesaf i'w cymryd yn eich ardal chi.
Dilynwch ni ar Facebook: Supported Lodgings, Local Solutions
Lleoliadau Cymru
Llety gyda Chefnogaeth yn Sir Ddinbych – Cefnogi pobl ifanc rhwng 16-21 oed
Ffôn: 01352 700838
Ffacs: 01352 700838
E-bost: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.; Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Swyddfeydd yr Ail Lawr, 9 Ffordd Gaer, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1EG
Llety gyda Chefnogaeth yn Sir y Fflint – Cefnogi pobl ifanc rhwng 16-21 oed
Ffôn: 01352 700838
Ffacs: 01352 700838
E-bost: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.; Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Swyddfeydd yr Ail Lawr, 9 Ffordd Gaer, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1EG
Llety gyda Chefnogaeth Sir Conwy – Cefnogi pobl ifanc rhwng 16-21 oed
Ffôn: 01492 576986
E-bost: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.; Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.; Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Heulwen, Ffordd Glyn y Marl Rd, Cyffordd Llandudno, Conwy, LL31 9NS
Thanks for your enquiry
We will contact you as soon as we can